Mae hanes yr Eidal yn mynd yn ôl i gyfnod cynnar iawn, er mai yn gymharol ddiweddar yr unwyd yr Eidal i greu'r wladwriaeth fodern.
Daw'r enw Italia o'r hen enw am bobloedd a thiriogaeth de yr Eidal. Yn y rhan yma, roedd nifer o bobloedd wahanol, megis yr Etrwsciaid, Samnitiaid, Umbriaid a Sabiniaid. Yn y gogledd, ymsefydlodd llwythau Celtaidd o gwmpas dyffryn afon Po.
Yn rhan ddeheuol yr orynys ac ar ynys Sicilia, ymsefydlodd Groegiaid rhwng 800 a 600 CC, a gelwid y rhan yma yn Magna Graecia ("Groeg Fawr") mewn Lladin. Yn y gogledd, yr Etrwsciaid oedd y grym mwyaf yn y cyfnod cynnar. Yn y 4 CC gorchfygwyd hwy gan y Rhufeiniaid, ac yn y 3 CC gorchfygodd Rhufain y Groegiaid yn y de hefyd.
Bu cyfres o ryfeloedd, y Rhyfeloedd Pwnig, rhwng Rhufain a Carthago; yn ystod yr Ail Ryfel Pwnig bu'r cadfridog Carthaginaidd Hannibal yn ymgyrchu yn yr Eidal am flynyddoedd. Er iddo ennill nifer o fuddugoliaethau ysgubol dros y Rhufeiniaid, bu raid iddo encilio o'r Eidal yn y diewedd. Ar ddiwedd y Trydydd Rhyfel Pwnig yn 146 CC, dinistriwyd Carthago.
Tyfodd Ymerodraeth Rhufain yn gyflwym yn y cyfnod canlynol; concrwyd Gâl gan Iŵl Cesar rhwng 60 a 50 CC. Daeth ei fab mabwysiedig, Augustus, yn ymerawdwr cyntaf Rhufain.
Daeth yr ymerodraeth yn y gorllewin i ben yn y 5g, a meddiannwyd yr Eidal gan bobloedd Almaenig megis yr Ostrogothiaid a'r Lombardiaid. Ffurfiwyd nifer o wladwriaethau.
Dim ond yn y 19g yr ad-unwyd yr Eidal, gyda Giuseppe Mazzini a Giuseppe Garibaldi ymhlith y prif ysgogwyr. Sefydlwyd Teyrnas yr Eidal yn 1861. Daeth Benito Mussolini, arweinydd plaid y Ffasgwyr yn Brif Weinidog yn 1922. Pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd, daeth Mussolini a'r Eidal i mewn i'r rhyfel ar ochr yr Almaen. Diswyddwyd ef yn 1943, a'i saethu yn 1945.
Ar 2 Mehefin 1946, cafwyd pleidlais mewn refferendwm i ddileu'r frenhiniaeth ac i sefydlu Gweriniaeth yr Eidal. Mabwysiadwyd y cyfansoddiad newydd ar 1 Ionawr 1948.